Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil Lefelau Diogel Staff
Nyrsio (Cymru)
1. Ar 1 Rhagfyr 2014, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn pennu dyddiad cau o 10 Ebrill 2015 i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a chyflwyno adroddiad arnynt a dyddiad o 5 Mehefin ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2.
2. Ar 3 Mawrth 2015, mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod adroddiad diwygiedig yn newid dyddiad cau y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i 8 Mai 2015 ac yn newid y dyddiad i gwblhau trafodion Cyfnod 2 i 17 Gorffennaf 2015.